Necledau

Wedi'u dylunio i orwedd ychydig yn uwch na'n tlysau, mae gennym ystod o necledau - o'r rhai bach, syml, modern, fel Cath Eryri, i'n darnau trawiadol anhygoel fel ein Cŵn Annwn a'n Gylfinir. Mae gan bob darn ei stori ei hun ac mae pob un wedi cael ei greu yn ddigon cryf i oroesi einioes o wisg dyddiol. O dan ein gwarant oes gallwch wisgo unrhyw ddarn am ddegawdau ac os ydych chi'n llwyddo ei dreulio, addawn werthu yr un darn i chi yn ei le am hanner y pris cyfredol. Gallwch gwympo mewn cariad ag unrhyw un o'r rhain yn hyderus na fydd byth raid i chi fod heb eich hoff ddarn beth bynnag a ddigwyddo.