Necled Ceffylau Manawydan Arian £295.00
gan
Rhiannon
Manylion
Cynllun gwreiddiol gan Rhiannon yw hwn, sy’n cyfuno anifeiliaid a chlymwaith mewn arddull ‘llawysgrif’ llyfn. Roedd Môr Iwerddon yn ddolen gyswllt bwysig rhwng Cymru, Iwerddon, Yr Alban ac Ynys Manaw. Ceir chwedl sy’n gyffredin i’r holl o’r gwledydd hyn, sef bod ceffylau Manawydan, y ‘Duw Môr’ sy’n byw dan Ynys Manaw, i’w gweld yn ewyn tonnau’r môr. Mae hon yn ddelwedd rymus, a ddefnyddiwyd beth amser yn ôl gan gwmni Guinness yn un o’i hysbysebion – prawf o barhad ein etifeddiaeth Celtaidd.