Amdanom Ni

Cara & RhiannonSefydlwyd ein busnes ym 1971 gan Rhiannon Evans. Yr ydym wedi ehangu rywfaint ers hynny, ond yn dal i fod yn fusnes teuluol, wedi ein lleoli yng nghadarnle gwledig y Gymru Gymraeg.

Dechreuodd Rhiannon ei gyrfa yn y gwyddorau, ond wedi ymweliad ar hap ag arddangosfa o gelfyddyd hynafol y Celtiaid, newidiodd ei bywyd yn gyfan gwbl. Nid oedd celfyddyd Geltaidd yn adnabyddus iawn ar yr adeg hynny, heb gael ei astudio mewn ysgolion a cholegau, ond roedd darganfyddiadau archeolegol cyffrous newydd daflu goleuni newydd ar fywyd a diwylliant y pobloedd Celtaidd ledled Ewrop. Yng ngeiriau Rhiannon ei hun: "Roedd y gwaith celf rhyfeddol hwn yn amlwg yn gelfyddyd 'ethnig' wych, fel un yr Aifft neu Wlad Groeg, ond ein celfyddyd ethnig ni oedd hwn. I mi, roedd yn rhyfedd o gyfarwydd, yn ymgorffori symbolau gweledol o'r holl gredoau, traddodiadau a chwedlau sy'n rhan o ddiwylliant Cymru. Sylweddolais pa mor lwcus yr oeddwn i gael fy magu yn siarad iaith Geltaidd, iaith a gollwyd bellach i'r mwyafrif o bobl Prydain, a sut y gallai'r cyfrwng gweledol hwn barhau i gyfleu llawer o'n treftadaeth heb ddefnyddio geiriau".

Penderfynodd Rhiannon yn y fan a'r lle ei bod am barhau yn y traddodiad artistig hwn, nid copïo cynlluniau hynafol, ond creu gwaith newydd o fewn yr un confensiynau. Ni chafodd unrhyw hyfforddiant mewn gwaith metel, ond aeth ati i ddysgu ei hun i wneud gemwaith, ac ar yr un pryd gweithio gyda gwneuthurwyr medrus eraill i ddylunio gwaith crefft 'Celtaidd' mewn carreg, pren a chlai. Ym mis Mai 1971, agorwyd ein siop am y tro cyntaf ar y sgwâr yn nhref farchnad fechan Tregaron, i gynnig y cynnyrch hwnnw i'r cyhoedd. Yr amcan o'r dechrau oedd cyflwyno'r diwylliant Cymraeg a Cheltaidd i'r di-Gymraeg drwy gelfyddyd gain a chrefft. Rydym Yma o Hyd!

The Shop/Y Siop

Bellach, ar ôl dros hanner canrif, gemwaith Rhiannon yw'r rhan fwyaf adnabyddus a phwysicaf o'r busnes, yn enwedig ei dyluniadau unigryw mewn Aur Cymru, metel prin a gwerthfawr iawn a gloddiwyd o fryniau Cymru. Bu cysylltiad agos rhwng Rhiannon ag Aur Cymru ers y 1980au. Mae safle'r siop wedi ehangu ac erbyn hyn mae'n cynnwys Orielau Celf, Amgueddfa Gelfyddyd Geltaidd sy'n arddangos gwaith metel hynafol go iawn, gyda dehongliad personol gan Rhiannon, a gweithdai gwylio lle gellir gweld y gemyddion yn gweithio. Mae Rhiannon yn dal i ddylunio a gwneud llawer o'r gemwaith, tra bod ei chynorthwyydd, Annabel, wedi datblygu ei harbenigedd ei hun fel gwneuthurwr ac atgyweiriwr gemwaith medrus, yn gweithio gyda diemwntau o ansawdd uchel a cherrig gwerthfawr eraill.

A Family Business/Y Teulu

Mae'r pedwar o blant Rhiannon wedi cymryd rhan yn rhedeg y busnes ar wahanol adegau, ac erbyn hyn mae ganddi ddwy ar bymtheg o wyrion.