Canolfan Rhiannon
Mae Canolfan Rhiannon wedi ei leoli yng nghalon tref fechan Gymreig Tregaron, yng nghanol golygfeydd ysblennydd cors Caron a Mynyddoedd Cambria. Dewch o hyd i ni yma. Mae'r Ganolfan yn cynnig llwyfan rhagorol ar gyfer popeth sydd orau mewn gemwaith Cymreig, y celfyddydau gweledol a chrefftau cain. Sefydlwyd y ganolfan ym 1971 gan Rhiannon Evans, dylunydd gemwaith sydd ag enw da yn rhyngwladol am ei dehongliadau gwreiddiol ac unigryw o'r traddodiadau artistig Cymreig a Cheltaidd.
O fewn Canolfan Rhiannon y mae:
Canolfan Aur Cymru Rhiannon, sy'n cynnwys ystafell arddangos arbennig, a gweithdai arddangos lle y gallwch weld ein gemyddion wrth eu gwaith.
Canolfan Cynllun Crefft Cymru Rhiannon, sy'n drysorfa o grefftau cain, nwyddau cartref unigryw a bwydydd lleol blasus, o gofroddion heddiw i ddarnau etifeddol y dyfodol.
Oriel Rhiannon, sy'n arbenigo mewn artistiaid Cymraeg a rhai sy’n byw yng Nghymru, gan gyfuno sioeau unigol a rhai grŵp mewn amrywiaeth o gyfryngau.
Amgueddfa Rhiannon, casgliad o greiriau Celtaidd sy'n dilyn esblygiad celfyddyd y Celtiaid hyd at heddiw.
Caffi Hafan, lle cewch ddewis o de neu goffi bendigedig gyda theisennau cartref neu fara brith. Dros amser cinio gallwch ddewis o ddetholiad o fyrbrydiau neu brydiau mwy sylweddol – gan cynnwys eu cawl byd enwog wrth gwrs!
Oriau Agor:
Ionawr – Rhagfyr, Mawrth i Sadwrn, 9.30 – 5.00
Ar gau ar Dydd Nadolig, Dydd San Steffan, Dydd Calan a Dydd Gŵyl Dewi.
Byddwn ni hefyd yn agor yn hwyr ar rai adegau yn ystod yr haf - galwch yn ôl neu ddilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.
Oriau Agor Nadolig 2021 a'r Flwyddyn Newydd 2022
25/12 - 27/12 ar gau
28/12 - 30/12 ar agor 10.00 - 5.00 (gan gynnwys caffi Hafan)
31/12 - 03/01 ar gau
04/01 - 10/01 ar agor 10.00 - 5.00 (ond caffi Hafan ar gau)
11-01 - 21/02 ar agor Mawrth i Sadwrn, 10.00 - 5.00