Personoleiddio'ch Gemwaith

Yn ogystal â'n darnau comisiwm, rydym yn cynnig nifer o wasanaethau sy'n eich caniatáu i wneud eich darnau yn fwy personol i chi.

Llythrennau Celtaidd

Mae ein llythrennau Celtaidd i gyd yn gynlluniau gwreiddiol gan Rhiannon. Yn wahanol i'r wyddor gyfoes, nid oedd gwahaniaethau rhwng llythrennau bach a phrif lythrennau yng nghyfnod yr hen lawysgrifau, ac yr ydym wedi cadw at y confensiwn hwnnw yn ein orgraff Geltaidd. Mae "gwyddor" Rhiannon yn ddwbl gyflawn, yn yr ystyr fod pob llythyren Saesneg yno a hefyd y llythrennau Cymraeg dwbl sy'n cychwyn enwau, sef Ff, Ll a Rh. Cynlluniwyd pob llythyren yn ofalus i orwedd yn daclus pan ar gadwyn. Mae llawer o'n cwsmeriaid sydd berchen ar y rhain yn eu gwisgo bob dydd yn ddifael am ddegawdau (gan gynnwys merch Rhiannon ei hun!) Anrheg personol hyfryd iawn.

Siopwch am llythrennau Celtaidd yma.

Necledi Enw Unigryw

Gwneir pob cadwyn a thlws enw yn unigol, trwy osod dyluniad ar ddarn o fetel arian neu aur a'i dorri allan â llaw yn ein gweithdy. Yna gorffenir ef yn ofalus, eto â llaw. Golyga hyn fod modd gwneud unrhyw enw dan haul, ond fod angen amser i'w gwneud, 4 i 8 wythnos fel arfer. Felly cofiwch archebu ddigon ymlaen llaw ar gyfer rhyw achlysur arbennig! Cysylltwch â ni am bris, neu i drafod cadwyn enw ar eich cyfer, neu fel rhodd i rywun arbennig.

Siopwch am necledi enw unigryw yma.

Ysgrythu

Rydym hefyd yn medru ysgrythu gemwaith yn ôl eich angehnion. Cysylltwch â ni i drafod ysgrythu enw, geiriau neu batrwm ar eich gemwaith.

Cysylltwch â ni am bris neu am fwy o wybodaeth am bersonoleiddio eich gemwaith:

Mwy o Wybodaeth am Bersonoleiddio Gemwaith
Ni fedrwyd anfon y neges. Cywirwch y camgymeriadau a cheisiwch eto os gwelwch yn dda.
*
*
*
*
*