Gwerthuso
Gyda gwerth gemwaith aur yn newid yn gyson, ac wedi cynyddu'n sylweddol dros y degawd diwethaf mae’n aml yn werth chweil sicrhau bod gennych yswiriant digonol ar gyfer eich trysorau. Rydym yn cynnig ein gwasanaeth ar gyfer unrhyw emwaith, nid darnau Rhiannon yn unig. Ein harbenigedd yw deiamwntiau tystysgrifedig o’r safon uchaf ac wrth gwrs, Aur Cymru go iawn.
Yn ddiweddar rydym yn gweld mwy a mwy o eitemau yn ymddangos wedi cael eu gwerthu fel Aur Cymru, ond sydd â marciau ffug neu sydd heb yr olrheiniadwyedd tarddle angenrheidiol i fedru eu gwerthuso fel Aur Cymru go iawn. Rydym yn codi isafswm o £60 (yn ddibynnol ar faint a chymhlethdod y darn) ar gyfer gwerthuso yr eitem gyntaf, ac isafswm o £30 yr un am eitemau ychwanegol. Bydd disgownt o 50% ar y prisiau hyn ar gyfer gwerthuso darnau Rhiannon.
Cysylltwch â ni i wneud apwyntiad gwerthuso gyda'n arbenigwr.