Ein Addewid Ansawdd Triphlyg

  • 1. Gwarant ad-daliad 90-diwrnod


    Mae'n bwysig i ni eich bod chi wrth eich bodd gyda'ch gemwaith Rhiannon newydd. Os nad ydych chi'n hollol fodlon â'ch darn gemwaith, am ba reswm bynnag, dychwelwch y darn atom o fewn 90 diwrnod, heb ei wisgo, ac yn ei gyflwr a'i becynwaith gwreiddiol, am ad-daliad llawn neu darn arall yn ei le. (Nid yw'r gwarant hwn yn berthnasol i eitemau pwrpasol neu wedi'u personoleiddio. Rhaid i chi fod wedi prynu'r eitem yn uniongyrchol wrthym ni, a gofynnwn i chi drefnu a thalu am bostio'r eitem yn ôl. Rhaid i chi hefyd ddychwelyd unrhyw eitemau hyrwyddol neu eitemau wedi'u gostyngu a dderbynioch fel rhan o'r un archeb.)

  • 2. Gwarant gwneuthuriad am oes


    Mae ein gofaint aur ac arian yn fedrus iawn ac yn cymryd balchder mawr mewn cwblhau eu gwaith i'r safonau uchaf. Os dewch ar draws unrhyw wall cynhyrchu yn eich darn gemwaith o fewn oes y darn, dychwelwch y darn atom i'w atgyweirio am ddim, neu am ddarn yn ei le. (Rhaid i chi fod wedi prynu'r eitem yn uniongyrchol wrthym ni. Nid yw'r gwarant hwn yn berthnasol yn achos traul normal, colled, niwed cemegol, newid wedi ei achosi er s i'r darn gael ei gynhyrchu, na darnau sydd wedi cael eu atgyweirio neu eu haddasu gan drydydd parti.)

  • 3. Gwarant cyfnewid am oes


    Gwneir gemwaith Rhiannon o ddeunyddiau o'r ansawdd uchaf, ac fe'u dylunnir a'u cynhyrchir i barhau am oes, a thu hwnt! Ymrwymwn i gyfnewid unrhyw ddarn safonol o emwaith Rhiannon, ni waeth pa mor hen ac wedi treulio, am ddarn newydd o'r un cynllun, am hanner ei bris manwerthu cyfredol, am byth. (Nid yw'r gwarant hwn yn berthnasol i eitemau cyfres cyfyngedig, eitemau pwrpasol neu wedi'u personoleiddio, na'r nifer fach o eitemau na ellir eu gwneud yn eu ffurfiau gwreiddiol mwyach. Rhaid i chi fod wedi prynu'r eitem yn uniongyrchol wrthym ni.)