Darnau Comisiwn
Mae'n anrhydedd bob amser cael cynllunio darn gyda ac ar gyfer cwsmer. Gall y broses lawn gymryd unrhyw beth o tua chwech wythnos i hyd at flwyddyn ac mae'n anorfod ein bod yn dod i adnabod y cwsmer, a bod creu'r darn yn datblygu yn rhywbeth personol tu hwnt. Yn wir, daw hyn yn elfen bwysig o'r broses greu. Yn aml bydd y darnau a grëwyd drwy'r broses yn wirioneddol odidog gan iddynt gyfuno ein sgiliau a'n harbenigedd gyda chynllunwaith, creadigrwydd a mewnbwn y cwsmer. Rhwng cyfraniadau tri aelod ein tîm cynllunio a chynhyrchu rydym wedi bwrw cyfrif bod rhai o'r darnau hyn yn ennill ar dros 135 mlynedd o brofiad gemwaith. Mae'n anodd gweld rhai ohonynt yn gadael ein gweithdai - bron fel plant yn gadael y nyth!
Modrwyau unigryw
Gall cymhlethdod y gwaith cynllunio weddu i'ch anghenion - o osod carreg werthfawr o'ch dewis mewn modrwy sydd wedi cael ei dylunio i gymryd carreg; drwy ychwanegu cerrig at un o'n cynlluniau modrwyau sy'n bodoli esioes, mewn metel o'ch dewis, e.e. aur gwyn neu aur rhosliw; hyd at doddi hen fodrwy neu fodrwyau a llunio cynllun hollol newydd. Cysylltwch â ni i drafod eich syniad.
Tlysau unigryw
Darnau unigryw eraill
Cysylltwch â ni am bris neu am fwy o wybodaeth am gomisiynu darn unigryw: