Treftadaeth Aur Cymru

Aur Cymru Crai

Mwynfeydd Aur Cymru

Cloddiwyd am aur yng Nghymru ers cyn cof. Yr oedd y pendefigion Celtaidd cyn Crist yn gyfoethog o'i herwydd, a gwisgent dorchau a breichledau godidog o aur. Mewn cyfnod diweddarach, daeth y Rhufeiniaid i Gymru i feddiannu rhai o'r mwynfeydd a'u datblygu'n weithfeydd diwydiannol mwy. Wedi i'r Rhufeiniaid adael daeth y tywysogion Cymreig hwythau'n arweinwyr cyfoethog a phwerus wrth gloddio a masnachu metelau gwerthfawr y wlad. Wedi Deddfau Uno Cymru a Lloegr ym 1536 a 1542, daeth yr hawliau cloddio yn eiddo i Goron Lloegr. Heddiw telir breindal i'r Goron ar unrhyw aur a gloddir yng Nghymru, a rhaid cael trwydded hyd yn oed i fynd i chwilio amdano

Roedd y mwynfeydd aur Celtaidd yn fach ac yn agos i'r wyneb. Dim ond yr ychydig a gafodd eu datblygu gan y Rhufeiniaid sy'n adnabyddus i ni heddiw - Dolau Cothi ger Pumsaint a nifer o fwynfeydd yn ardal Dolgellau. Cafodd y rhain i gyd eu datblygu ymhellach a'u defnyddio'n fasnachol ar wahanol gyfnodau yn ystod y 200 mlynedd ddiwethaf.

Aur Cymru Gorffenedig

Aur Cymru Rhiannon

Bu'r unig gynnyrch masnachol o Aur Cymru yn ystod y blynyddoedd diweddar o fwynfa'r Gwynfynydd yn ystod y 1980au. Mae Rhiannon yn un o ddim ond tri pherson a gafodd drwydded i ddefnyddio'r aur hwnnw, a oedd yn cael ei reoli'n ofalus a'i farcio'n annibynnol â stamp dilysrwydd y 'Forwyn Gymreig'. Mae'r gemwaith a wnaeth Rhiannon o'r Aur Cymru pur hwnnw yn awr yn ddarnau amhrisiadwy i gasglwyr.

Caewyd y gloddfa ym 1989 a chododd pris Aur Cymru yn ddramatig yn y blynyddoedd wedi hynny. Mae Rhiannon yn awr yn defnyddio'r hyn sydd ganddi'n weddill i wneud 'Aur Cymru Rhiannon', sef cymysgiad arbennig, mwy rhesymol ei bris, yn cynnwys 10% o Aur Cymru Gwynfynydd. Mae pob cynllun yn y casgliad Aur Cymru Rhiannon wedi ei gyfyngu i'r aur arbennig hwn, sydd wedi ei farcio â nod cofrestredig Rhiannon fel y'i gwelir ar y dudalen hon. Ychydig iawn o'r darnau hyn sy'n cael eu cynhyrchu, a gwneir pob un gan Rhiannon yn bersonol. Daw tystysgrif arbennig gyda phob darn, wedi ei llofnodi gan Rhiannon.

Nod Cofrestredig Aur Cymru Rhiannon

Aur Cymru Go Iawn

Gan fod Aur Cymru mor brin a gwerthfawr, a'i bod hi'n amhosibl adnabod y gwahaniaeth rhyngddo ag aur cyffredin gyda'r llygad noeth, mae'n bwysig iawn sicrhau dilysrwydd a tharddle Aur Cymru cyn ei brynu. Mae Aur Cymru Rhiannon yn cynnwys 10% Aur Cymru go iawn sydd wedi ei warantu a'i ddilysu ac sydd yn olrhain ei darddle yn ôl i fwynfa Gwynfynydd.