Darnau Corfforaethol

Gall Rhiannon gynllunio a chynhyrchu darn unigol neu gyfres o ddarnau ar gyfer eich busnes, mudiad neu awdurdod. Gwelir rhai engreifftiau isod. Gall y gost fod yn rhesymol iawn a gall y niferoedd fod yn fach neu’n fawr, unwaith mae’r gost cynllunio a chreu wedi ei thalu. Mae llawer i arwyddlun, logo ac arfbais yn addas iawn i’w ddehongli fel pin, bathodyn, dolenni llewys, mwclis neu glustdlws, a rhai yn gweithio’n dda fel bathodyn aml-ryw ar gyfer staff, aelodau ac anrhegion busnes. Mae pin arian cywrain wedi ei wneud â llaw yn creu argraff, ac un aur yn anrheg cofiadwy am wasanaeth neu gyfraniad arbennig.

Pin Llywodraeth Cymru Bathodyn Canmlwyddiant Sefydliad y Merched Troad y Rhod

Comisiynwyd Pin Llywodraeth Cymru yn wreiddiol i’w roi yn anrheg arbennig i arweinwyr y byd tra iddynt ymweld a Chymru ar gyfer uwch gynhadledd NATO 2014. Cynllun sy’n cynrychioli Cymru ac egwyddorion NATO i’r dim, gan fod y ddraig yn symbol rhyfelgar a’r genhinen pedr yn ei cheg yn arwydd o heddwch. Rydym yn falch iawn ein bod wedi ein dewis a’n cydnabod trwy gynrychioli y gorau o Gymru gyda chynnyrch unigryw o safon uchel.

Datblygwyd Bathodyn Canmlwyddiant Sefydliad y Merched i ddathlu eu canmlwyddiant yn 2015. Gobeithio bydd y bathodynau godidog a wnaethpwyd â llaw yn cael eu gwisgo gan aelodau’r sefydliad am flynyddoedd mawr i ddod. Rydym yn credu yn gryf y dylai bathodynnau corfforaethol fod yn brydferth ac yn werthfawr yn ogystal a dangos aelodaeth neu deyrngarwch. Roedd yn anrhydedd i gael ein dewis o blith cwmniau gemwaith Prydeinig i wneud y rhain, ac yn addas iawn efallai gan ystyried i’r sefydliad hwnnw gychwyn gan mlynedd yn ôl yng Nghymru.

Dyluniwyd y bathodyn Troad y Rhod gan Rhiannon yn wreiddiol ar gyfer cyngerdd agoriadol Opra Cymru ar 21 Mehefin 2009. Mae diwrnod hwyaf y flwyddyn yn cael ei adnabod yn draddodiadol yng Nghymru fel Troad Y Rhod - troad yr olwyn. I Rhiannon roedd arwyddocâd ‘troad yr olwyn’ yn arbennig o briodol ar gyfer y darn hwn, i nodi dechreuad y cwmni opra Cymraeg a ‘chwyldro’ yn y ffordd y mae pobl yn meddwl am opra.

Gwobrau a Darnau Seremonïol

Gall Rhiannon hefyd ddarparu gwobrau unigryw ar gyfer cystadlaethau neu eisteddfodau, neu ddarnau seremonïol ar gyfer defodau.

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion neu am fwy o wybodaeth:

Mwy o Wybodaeth am Ddarnau Corfforaethol a Seremonïol
Ni fedrwyd anfon y neges. Cywirwch y camgymeriadau a cheisiwch eto os gwelwch yn dda.
*
*
*
*
*