Gwlâd y Gân

Mae canu yn gymaint rhan o draddodiad a chymeriad Cymru, ac yr un mor greiddiol i'n hunaniaeth, ag y mae ein rygbi!

Gellir olrhain adrodd barddoniaeth a chanu i gyfeiliant telyn, sef cerdd dant, yn ôl i'r oesoedd canol ac mae'r traddodiad wedi cael ei gario ymlaen drwy'r oesoedd mewn corau, capeli a'n Heisteddfod Genedlaethol flynyddol.

Mae pob cynllun yn ein casgliad wedi'i ysbrydoli gan elfennau o'n hethos cerddorol o hwiangerddi, i ganeuon poblogaidd i symbol cerddorol ein cenedl – y delyn deires Gymreig.