Modrwyau Priodas

Mae ein bandiau Aur Cymru Rhiannon yn cael eu gwneud â llaw allan o fariau aur a’u gofannwyd gennym cyn cael eu rholio, eu meintio a’u gorffen yn ein gweithdy. Proses yn ei chyfanrwydd sy'n o debyg i'r ffordd y gwnaed bandiau gan ein cyndeidiau gannoedd a miloedd o flynyddoedd yn ôl! Yn ogystal â chreu bandiau o Aur Cymru Rhiannon rydym hefyd yn eu gwneud mewn aur cyffredin a phlatinwm, ac unwaith eto yn eu gorffen â llaw yn ein gweithdy.

Rydym yn teimlo'n gryf ei bod hi'n bwysig bod darnau llawn arwyddocâd yn cael eu gwneud yn arbennig ar gyfer unigolion yn hytrach na'u bod yn ddarnau parod. Mae gennym hefyd ddetholiad o fandiau patrwm o Aur Cymru Rhiannon ac o aur cyffredin.

Rydym yn hapus i gynnig pris arbennig ar eich bandiau priodas os ydych hefyd wedi dod atom ar gyfer eich modrwy dyweddïo.

Mae ein modrwyau ar gael mewn ystod o ledau (rhwng 2mm a 6mm yw'r mwyaf poblogaidd) ac mewn proffil crwm (domed), fflat a lletgrwm (rounded). Nodwch fod y bandiau wedi eu gwneud a'u gorffen â llaw a bod y proffil fflat, yn arbennig, ag ochrau mwy crwm na chorneli llym modrwy wedi ei ffurfio gan beiriant.

Modrwyau Aur Cymru Pur

Yn achlysurol iawn, a thrwy gais yn unig, byddwn yn gwneud ychydig iawn o fodrwyau o Aur Cymru pur. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni am bris neu am fwy o wybodaeth am ein modrwyau priodas:

Mwy o Wybodaeth am Fodrwyau Priodas
Ni fedrwyd anfon y neges. Cywirwch y camgymeriadau a cheisiwch eto os gwelwch yn dda.
*
*
*
*
*

Modwyau Priodas Cymreig a Cheltaidd