O Gymru i Bedwar Ban Byd

Rhiannon Evans

Ers dros 50 mlynedd bu Rhiannon Evans yn cynllunio a gwneud gemwaith unigryw a phrydferth yng nghalon Cymru wledig. A’i chanolfan yn Nhregaron, wrth droed Mynyddoedd y Cambrian, mae’r busnes yn falch o’i hunaniaeth Gymreig ac yn rhan bwysig o’r gymuned leol. O’i ddechreuad yn y 1970au, tyfodd y busnes yn gwmni teuluol sy’n cyflenwi gemwaith Cymreig a Cheltaidd yn fyd eang.

Dros y blynyddoedd, mae gemwaith cain Rhiannon – wedi ei wneud â llaw mewn Arian, Aur ac Aur Cymru – wedi ennill enw da yn rhyngwladol am ansawdd eithriadol ei chynlluniau a’i chrefftwaith. Ysbrydolwyd y cynlluniau diweddaraf, a’r hen ffefrynnau fel ei gilydd gan y wefr o fyw a gweithio mor agos â phosib at iaith a thraddodiad hynafol y Celtiaid. Yn hytrach nag efelychu darganfyddiadau hanesyddol go iawn yn unig, mae Rhiannon yn cynllunio gwaith newydd sy’n defnyddio hen gonfensiynau gweledol.

Mae Rhiannon yn parhau i wneud llawer o’r gemwaith ei hun, gyda chymorth crefftwyr cynorthwyol a hyfforddwyd o fewn y cwmni, ac archwilir pob darn yn ofalus i sicrhau’r safonau uchaf. Gwneir gemwaith Rhiannon i barhau; mae'r cadwyni yn drymach, gwifrau clust yn gryfach, broetsiau yn fwy diogel, ac mae dilysnod yr HallMark Prydeinig ar bob darn i ddynodi ei burdeb a’i darddiad.

Caiff y gemwaith i gyd ei wneud yn y Ganolfan yn Nhregaron a gellir gwylio’r gwaith yn mynd yn ei faen yn y gweithdai gwylio pwrpasol.

Rhiannon yn mireinio modrwyRhiannon yn ysgrythu tlws