Anifeiliaid ac Adar

Yn y byd Celtaidd roedd y ffin rhwng bywyd dynol a bywyd natur yn anelwig iawn; roedd pob peth byw yn rhan o’r un byd ysbrydol a’r gwahaniaethau yn rhai arwynebol, corfforol yn unig. Mae pobl, anifeiliaid ac adar yn aml yn cyfnewid eu ffurfiau allanol yn yr hen chwedlau, ac yn y gwledydd Celtaidd hyd heddiw credir bod rhai adar neu anifeiliaid yn medru ymgorffori bodau ysbrydol neu ddod ar neges atom o’r byd ysbrydol.

Roedd gan rai anifeiliaid penodol rinweddau talismanig, hudol, fel bod cario neu wisgo delwedd ohonynt yn trosglwyddo rhai o’u rhinweddau i’r person. Defnyddid y twrch neu’r baedd gwyllt am ddycnwch mewn brwydr, y ci am ffyddlondeb a dewrder, y ceffyl am nerth a chyflymder, a’r carw am ddealltwriaeth o’r byd ysbrydol.

Anifeiliaid

Adar