Cludiant a Dosbarthu

Costau Cludiant

Byddwn yn codi £10 am cludo archebion o fewn y Deyrnas Unedig; £15 o fewn gwledydd Ewrop; a £20 i weddill y byd. Bydd cludo pob archeb o fewn y DU a thu hwnt am ddim.

Dosbarthu

Bydd eitemau sydd mewn stoc yn cael eu dosbarthu cyn gynted â phosibl, ond caniatewch 5 niwrnod ar gyfer paratoi a dosbarthu. Bydd eitemau o dan £150, wedi eu harchebu o fewn y DU, fel arfer yn cael eu cludo gan Royal Mail 24, a bydd angen llofnod wrth eu derbyn. Bydd eitemau i'r DU dros £150 fel arfer yn cael eu cludo gan Royal Mail Next Day Special Delivery. Bydd archebion rhyngwladol fel arfer yn cael eu cludo gan Royal Mail International Tracked and Signed For.

Ein dyddiad olaf ar gyfer POSTIO archebion Nadolig 2022 yw'r 16eg o Ragfyr, felly archebwch mor gynnar â phosibl os gwelwch yn dda, gan y gall streiciau'r Post Brenhinol yn ystod y cyfnod gael effaith anrhagweladwy ar ein gallu i archebu deunyddiau, dilysnodi a dosbarthu eitemau. Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.

Eitemau "Yn ôl y Galw"

Bydd eitemau sydd wedi eu nodi "ar gael: yn ôl y galw" yn cael eu gwneud yn ôl y galw. Gall y cyfnod cynhyrchu fod hyd at 4-6 wythnos. Cysylltwch â ni am amcangyfrif o'r dyddiad dosbarthu ar gyfer eitemau sy'n rhaid i ni eu harchebu i mewn, neu sydd yn cael eu gwneud yn ôl y gofyn os gwelwch yn dda.

Eitemau Allan o Stoc

Gellir archebu eitemau sydd allan o stoc, ond bydd rhaid caniatáu hyd at 8 wythnos i'w gwneud, er fod rhai eitemau yn gallu cael eu gwneud o fewn 1-2 wythnos - byddwn mewn cysylltiad er mwyn eich diweddaru ar y cynnydd wrth i'ch eitem gael ei gwneud a'i gorffen.