Canolfan Aur Cymru Rhiannon

Oriau Agor:

Ebrill – Medi, Mawrth i Sadwrn, 9.30 – 5.30
Hydref - Rhagfyr, Mawrth i Sadwrn, 10.00 – 5.00
Ionawr 10fed - Ionawr 31ain:
    Mawrth & Mercher, drwy apwyntiad a chloch y drws yn unig, 10.00 – 4.00
    Iau i Sadwrn, 10.00 – 4.00
Chwefror - Mawrth, Mawrth i Sadwrn, 10.00 – 4.00

Ar gau ar Dydd Nadolig, Dydd San Steffan, rhwng Dydd Calan a Ionawr 9fed, ac ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Byddwn ni hefyd yn agor yn hwyr ar rai adegau yn ystod yr haf - galwch yn ôl neu ddilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Canolfan Aur Cymru Rhiannon - ystafell arddangos at y cownter

Lleolir Canolfan Aur Cymru Rhiannon o fewn Canolfan Rhiannon, sydd yng nghalon tref fechan Gymreig Tregaron, yng nghanol golygfeydd ysblennydd cors Caron a Mynyddoedd Cambria. Dewch o hyd i ni yma. Mae'r Ganolfan yn cynnig llwyfan rhagorol ar gyfer popeth sydd orau mewn gemwaith Cymreig, y celfyddydau gweledol a chrefftau cain. Sefydlwyd y ganolfan ym 1971 gan Rhiannon Evans, dylunydd gemwaith sydd ag enw da yn rhyngwladol am ei dehongliadau gwreiddiol ac unigryw o'r traddodiadau artistig Cymreig a Cheltaidd.

Ers 1971 tyfodd Canolfan Rhiannon o gwmpas y busnes gemwaith a gofannu aur ac arian gwreiddiol, a ddatblygodd, ei hun, i fod yn Ganolfan Aur Cymru. Mae'n cynnwys ystafell arddangos arbennig lle y gallwch weld a thrio ein gemwaith prydferth. Mae hefyd yn cynnwys gweithdai arddangos lle y gallwch weld ein gemyddion wrth eu gwaith. Galwch i mewn i'n gweld: cewch groeso cynnes a chyfeillgar!

Canolfan Aur Cymru Rhiannon - ystafell arddangos at y drws

Mae Canolfan Rhiannon yn cynnwys amrywiaeth o atyniadau eraill hefyd. Gallwch chwilio am eich darn cyntaf o gelfyddyd, neu ychwanegu at eich casgliad o weithiau Cymreig yn ein Oriel celfyddyd gain; prynu eitemau hardd o ansawdd uchel o'n siop grefftau; neu ymlacio yn y caffi gyda'i iard hardd a diarffordd. Mae cyfle hefyd i bori drwy ein Amgueddfa o greiriau Celtaidd sy'n dilyn esblygiad celfyddyd y Celtiaid hyd at heddiw.


Canolfan Aur Cymru Rhiannon - arddangos darnau aurCanolfan Aur Cymru Rhiannon - gweithdai arddangos