Polisi Preifatrwydd

Gwybodaeth Bersonol

Wrth i chi ymweld â'n gwefan, byddwn yn casglu gwybodaeth am eich dyfais, eich ymwneud â'r wefan, a gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer cofio'ch dewisiadau a phrosesu'ch archebion. Byddem hefyd yn casglu gwybodaeth ychwanegol pe cysylltech â ni am gymorth cwsmer. Yn y Polisi Preifatrwydd hwn, cyfeiriwn at unrhyw wybodaeth a all gael ei ddefnyddio i adnabod unigolyn fel "Gwybodaeth Bersonol".

Nid yw'r wefan hon wedi'i bwriadu ar gyfer unigolion o dan 18 oed. Nid ydym yn fwriadol yn casglu Gwybodaeth Bersonol am blant. Os ydych yn riant neu'n warcheidwad sy'n credu bod eich plentyn wedi ein darparu â Gwybodaeth Bersonol, cysylltwch â ni i ofyn am ei ddileu os gwelwch yn dda.

Hysbysebu

O dro i dro gallwn fod yn defnyddio eich Gwybodaeth Bersonol i'ch darparu â hysbysebion wedi'u targedu, neu negeseuon marchnata y credwn a fydd o ddiddordeb i chi. Rydym yn rhannu gwybodaeth am eich defnydd o'r wefan, eich archebion, a'ch ymwneud â'n hysbysebion gyda'n partneriaid hysbysebu. Rydym yn casglu ac yn rhannu peth o'r wybodaeth hon yn uniongyrchol gyda'n partneriaid hysbysebu, ac mewn rhai achosion drwy ddefnyddio briwsion neu dechnolegau eraill (a all fod angen eich caniatâd, yn dibynnu ar eich lleoliad.)

Am fwy o wybodaeth am sut mae hysbysebu wedi'i dargedu yn gweithio, gallwch ymweld â thudalen wybodaeth y Network Advertising Initiative’s (“NAI”) yma http://www.networkadvertising.org/understanding-online-advertising/how-does-it-work (yn Saesneg).

Rydym yn defnyddio Mailchimp ar gyfer e-lythyra. Drwy danysgrifio i'n cylchlythyr, rydych chi'n derbyn y bydd eich gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i MailChimp i'w brosesu. Dysgwch fwy am ymarferion preifatrwydd Mailchimp yma. (yn Saesneg)

Gallwch eich eithrio eich hun o hysbysebion wedi'u targedu wrth:

Facebook - https://www.facebook.com/settings/?tab=ads (yn Saesneg)
Google - https://www.google.com/settings/ads/anonymous (yn Saesneg)
Microsoft - https://account.microsoft.com/privacy/ad-settings (yn Saesneg)

Defnyddio briwsion

Rydym yn defnyddio briwsion (cookies) ar y wefan am sawl reswm. Yn gyntaf, rydym yn creu briwsion er mwyn cofio unrhyw ddewisiadau yr ydych chi wedi eu gwneud, e.e. dewis iaith, gosodiadau briwsion, ac ati, wrth i chi symud o dudalen i dudalen. Yn ail, rydyn ni hefyd yn defnyddio briwsion i gadw manylion eich trol siopa dros dro. Yn drydydd, rydyn ni'n defnyddio briwsion i gasglu ystadegau anhysbys am ddefnydd y wefan er mwyn gwella'r profiad o ddefnyddio'r wefan ar gyfer ein cwsmeriaid.

Archebion

Os ydych chi’n prynu rhywbeth ar-lein, mae opsiwn i chi ofyn i ni greu briwsion ychwanegol ar eich cyfrifiadur gyda manylion eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost fel na fydd angen i chi ail-deipio popeth y tro nesaf rydych chi am brynu rhywbeth.

Cysylltu

Am fwy o wybodaeth am ein gweithdrefnau preifatrwydd, i gwyno, neu i weithredu eich hawliau o dan gyfraith preifatrwydd, cysylltwch â ni drwy un o'r dulliau a restrir o dan Cysylltwch ar waelod y dudalen hon os gwelwch yn dda.