Ein Busnes Teuluol

Rhiannon Evans

Yr hyn sy’n symbylu fy ngwaith ar hyd yr adeg yw diddordeb ysol yn nhraddodiad a chelfyddyd Ynys Prydain a’r gwledydd Celtaidd. Erbyn hyn yr wyf wedi treulio rhan helaeth fy mywyd yn ymchwilio i’r traddodiad hwn a’r modd y mae arferion a thraddodiadau hynafol iawn yn parhau i fynegi eu hunain yn ein diwylliant Cymraeg hyd heddiw. Mae’n dal yn ffynhonnell ddiddiwedd o ysbrydoliaeth, ac mae stori ddiddorol tu ôl i lawer o’r cynlluniau.

Oherwydd cynnydd sylweddol ym mhris metalau yn ddiweddar a’n amharodrwydd i gyfaddawdu ar safon a phwysau ein gemwaith, mae Gemwaith Rhiannon bellach yn emwaith gwirioneddol foethus, wedi ei wneud i barhau ac ar gyfer pryniant arbennig. Yn ddiweddar rwyf wedi gweld mwy o alw am gomisiynau unigryw o bob math mewn arian, aur ac wrth gwrs Aur Cymru.

Yn ôl yn y 1980au roeddwn yn un o ychydig iawn o emyddion trwyddedig yn defnyddio Aur Cymru o gloddfa’r Gwynfynydd. Oherwydd y nifer o ddarnau a wnaethpwyd gennym yn y cyfnod hwnnw, a’r elfen grêf o gynllunwaith creadigol yn fy ngwaith, daeth Gemwaith Rhiannon a Chanolfan Aur Cymru yn Nhregaron yn adnabyddus yn fyd-eang fel ffynhonnell safonol o Aur Cymru dilys. Caewyd y Gwynfynydd ym 1990, ond cawsom lawer o aur oddi yno adeg hynny. Ymhen amser daeth yn amhosibl i brynu Aur Cymru yn y farchnad agored, a phenderfynwyd ddefnyddio hynny oedd ar ôl gennym i wneud Aur Cymru Rhiannon, cymysgedd unigryw ein hunain yn cynnwys 10% o Aur Cymru ac wedi ei nodi â’n marc ceffyl cofrestredig arbennig.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, llwyddom i brynu’r Aur Cymru olaf a gafwyd o Feirionydd dan drwydded swyddogol y Goron. Hefyd, ers 2013, rydym wedi adnewyddu’n cysylltiad gyda Steven Mitchell, a oedd yn gweithio gyda Britannia Gold, y cwmni oedd yn gweithredu ar ran y mwynfeydd ac yn gosod marc dilysrwydd arbennig “Y Forwyn Gymreig” ar y gemwaith a wnaethpwyd gan y gemyddion trwyddedig. Mae Steve yn emydd profiadol a chrefftus iawn sy’n arbenigo mewn gosod cerrig gwerthfawr, a rhyngom mae gennym ni’n dau yn agos i ganrif o brofiad. Gellir gweld rhai o’n darnau comisiwn unigryw ar ein gwefan ac yn y catalog hwn. Daw rhai o’r rhain gyda mewnbwn oddi wrth fy mab Gwern, sy’n arbenigo mewn deiamwntiau a gemau gwerthfawr, ac maent yn ddarnau gwirioneddol syfrdanol a thrawiadol.

Cofiwch ein bod yma unrhyw adeg i ateb eich galwad a thrafod eich anghenion am waith unigryw os byddwch yn dymuno cysylltu â ni.

Rhiannon Evans

Gwern Evans

Bu sawl blwyddyn erbyn hyn ers i mi fod yn grwt bach yn chwarae wrth draed fy mam yn ein gweithdai yn Nhregaron. Erbyn hyn mae gennyf dri mab a dwy ferch fy hunan, ac rydym wedi ehangu’r Ganolfan, cynyddu staff a thyfu’r busnes yn ei gyfanrwydd gan aros yn dryw i undod unigryw ein steil cynllunio personol sydd yn un Cymreig, Celtaidd a gwreiddiol ei naws. Rwy’n hyderus bod rhywbeth at ddant pawb yn ein casgliad o ddyluniadau, a sawl darn fydd yn gwneud trysor oes i chi neu rhywun sydd yn ddigon ffodus i dderbyn rhodd gennych.

Nid ydym erioed wedi cwtogi ar safon na sylwedd ein cynnyrch er gwaethaf symudiadau enfawr yng ngwerth Aur ac Arian ac mae hyn wedi gorfodi prisiau i godi – yn achlysurol ar draul ffyniant a throsiant y cwmni. Rydym yn ffodus ein bod, fel cwmni teuluol, yn medru goroesi stormydd o’r fath a rydym yn dal i fynd heddiw (a gobeithio am dros ddeugain mlynedd drachefn). Mae’r sawl sydd wedi prynu dros y blynyddoedd wedi gweld cynnydd mawr yng ngwerth eu darnau Rhiannon ond mynnwn eich bod yn eu gwisgo a pheidio bod ofn eu baeddu! Unig iawn yw gemwaith mewn dror! Os ydych yn ychwanegu at gasgliad neu yn dechrau trysorfa o’r newydd rwy’n siwr y cewch flynyddoedd o bleser, mwynhâd, a defnydd o’ch gemwaith Rhiannon.

Gwern Evans