Ein ymrwymiad i ddilysnodi

O safbwynt gweithgynhyrchu gemwaith a llestri arian, anaml y defnyddir metelau gwerthfawr (arian, paladiwm, aur a phlatinwm) yn eu ffurf bur. Yn hytrach cymysgir aloi yn cynnwys metelau llai gwerthfawr er mwyn cyrraedd y cryfder, gwydnwch a lliw a ddymunir.

Nid yw’n bosibl mesur cyfran metel gwerthfawr eitem drwy olwg na chyffyrddiad. Am y rheswm hwn mae’n ofynnol yn gyfreithiol i drefnu prawf annibynnol ar gyfer eitemau sy’n cynnwys arian, paladiwm, aur neu blatinwm, a’u dilysnodi cyn y bo modd eu disgrifio felly. Rhaid i eitemau arddangos dilysnod wrth y tâl-bwynt, yn amodol ar yr eithriadau pwysau canlynol:

Arian: gofynnol ar eitemau dros 7.78 gram;
Aur: gofynnol ar eitemau dros 1 gram;
Paladiwm: gofynnol ar eitemau dros 1 gram;
Platinwm: gofynnol ar eitemau dros 0.5 gram.

Mae Rhiannon Cyf yn gofrestredig gyda Swyddfa Brofi Edinburgh, sy’n sicrhau bod ein metelau gwerthfawr yn cydymffurfio â rheolau dilysnodi’r DU. Mae ein proses wirio fewnol yn sicrhau fod ein holl stoc yn cwrdd â rheolau dilysnodi’r DU cyn ei ddosbarthu i’n cwsmeriaid.

Mae Rhiannon Cyf yn gweithredu proses diwydrwydd dyladwy ar wahân ar gyfer eitemau sydd islaw’r pwysau gofynnol ar gyfer dilysnodi yn ôl Deddf dilysnodi’r DU, proses sy’n golygu eu profi yn wirfoddol yn achlysurol er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r safon coethder.

Rydym ni’n Adwerthwr Gemwaith Prawf Gwarantedig. Dim ond adwerthwyr sydd wedi cael eu harchwilio’n annibynnol a’u dilysu gan Assay Assured sy’n derbyn y statws Prawf Gwarantedig. Mae Assay Assured yn cael ei redeg a’i oruchwylio gan Swyddfa Brofi Edinburgh ac yn sicrhau bod pob gemwaith metelau gwerthfawr (heblaw eitemau sydd wedi’u heithrio gan eu pwysau) yn cael eu profi yn annibynnol a’u dilysnodi.

Cliciwch yma i weld sut mae dilysnod yn edrych.