Polisi Dychwelyd

Gwnawn ein gorau i gynnig gwasanaeth teg, cyflym ac effeithiol i’n cwsmeriaid. Os bydd gwall neu ddifrod ar ein nwyddau, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib, drwy e-bost neu drwy ffonio, ac fe’u cyfnewidiwn yn syth.

Os byddwch am ganslo archeb, cysylltwch ar unwaith (cyn i ni ei ddanfon, os yn bosib) ac fe drefnwn ad-daliad yn syth.

Os byddwch am ganslo neu ddychwelyd archeb ar ôl ei dderbyn, fe wnawn ad-dalu pris y nwyddau ac unrhyw gost postio gwreiddiol yn llawn, ond gofynnwn i chi dalu’r gost o ddychwelyd y nwyddau atom. Cysylltwch o fewn 5 diwrnod gwaith, drwy e-bostio neu ffonio. Byddwn yn ad-dalu ar dderbyn y nwyddau yn ôl mewn cyflwr gwerthadwy.

Ni chaniateir dychwelyd eitemau, a gynigiwyd am ddim neu am ddisgownt fel rhan o gynnig, ar eu pennau eu hunain am ad-daliad neu i'w cyfnewid. Byddwn ond yn ad-dalu neu'n cyfnewid eitemau a brynwyd fel rhan o gynnig os yw'r eitemau a dalwyd amdanynt, a'r eitemau a dderbyniwyd am ddim neu am ddisgownt, yn cael eu dychwelyd gyda'i gilydd. Pe dychwelid eitemau a dalwyd amdanynt fel rhan o gynnig, ond nas dychwelid yr eitemau a dderbyniwyd am ddim neu am ddisgownt fel rhan o'r un cynnig, cedwir yr hawl i ddiddymu cost manwerthu llawn yr eitemau hynny ar adeg y cynnig o unrhyw ad-daliad a fyddai, fel arall, yn ddyledus.