Llwyau Serch

Dechreuodd yr arfer o roi llwyau serch fel gweithred symbolaidd rhwng cariadon. Byddai dyn yn cerfio llwy fechan allan o un darn o bren ac yn ei chyflwyno i'w gariad. Os derbyniai hithau'r llwy, buasai'n ei chadw fel arwydd o ffyddlondeb ac ymrwymiad i'r rhoddwr. Roedd y llwyau cyntaf yn fach, gyda'r bwriad o'u cadw'n gyfrinach a'u gwisgo ar linyn o gwmpas y gwddf. Mewn sawl ardal yng Nghymru eich sponer yw eich cariad hyd heddiw.