Llun o 'Tlws Llwy Serch Dragwyddoldeb Aur 9ct''
  • Llun o\'Tlws Llwy Serch Dragwyddoldeb Aur 9ct\'
  • Llun o\'Tlws Llwy Serch Dragwyddoldeb Aur 9ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: G115a
Pris: £865.00
Categori: Tlysau
Cyfrwng: Aur 9ct
Maint: 16 x 42mm
Cadwyn: Cadwyn Safonol Aur 9ct 18''(45cm)

Tlws Llwy Serch Dragwyddoldeb Aur 9ct £865.00

Aur 9ct
£865.00
Ar gael: Stoc isel
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Mae’r clymwaith Celtaidd yn y Llwy Serch hon yn arwydd o dragwyddoldeb. Mae’r linell yn un ddi-dor, sy’n cynnwys dwy galon ar ben y cynllun.

Dechreuodd yr arfer o roddi llwyau fel gweithred symbolaidd rhwng cariadon. Byddai dyn yn cerfio llwy fechan allan o un darn o bren ac yn ei chyflwyno i’w gariad. Os derbyniai hithau’r llwy, buasai’n ei chadw fel arwydd o ffyddlondeb ac ymrwymiad i’r rhoddwr. Roedd y llwyau cyntaf yn fach, gyda’r bwriad o’u cadw’n gyfrinach a’u cario mewn poced neu eu gwisgo ar linyn o gwmpas y gwddf, ond wrth i’r arfer ddod yn fwy cyffredin a chyhoeddus, cerfiwyd llwyau mwy o faint a mwy cywrain er mwyn profi medr ac ymroddiad y rhoddwr. Defnyddid addurniadau symbolaidd arnynt: angor am ffyddlondeb, tebot neu dy i gynrychioli cyfoeth a chartref dedwydd, ac wrth gwrs calon am gariad parhaol.