Tlws Llwy Serch Driphlyg Arian £145.00 £116.00
Manylion
Mae’r Llwy Serch anarferol hon wedi ei llunio ar ffurf lefn a modern yr olwg, gyda chalon wedi ei chuddio o fewn y cynllun. Yn ei chanol mae yna galon fach yn troi.
Dechreuodd yr arfer o roddi llwyau fel gweithred symbolaidd rhwng cariadon. Byddai dyn yn cerfio llwy fechan allan o un darn o bren ac yn ei chyflwyno i’w gariad. Os derbyniai hithau’r llwy, buasai’n ei chadw fel arwydd o ffyddlondeb ac ymrwymiad i’r rhoddwr. Roedd y llwyau cyntaf yn fach, gyda’r bwriad o’u cadw’n gyfrinach a’u cario mewn poced neu eu gwisgo ar linyn o gwmpas y gwddf, ond wrth i’r arfer ddod yn fwy cyffredin a chyhoeddus, cerfiwyd llwyau mwy o faint a mwy cywrain er mwyn profi medr ac ymroddiad y rhoddwr. Defnyddid addurniadau symbolaidd arnynt: angor am ffyddlondeb, tebot neu dŷ i gynrychioli cyfoeth a chartref dedwydd, ac wrth gwrs calon am gariad parhaol.