Llun o 'Tlws Llwy Serch Croeso Aur 9ct''
Llun o\'Tlws Llwy Serch Croeso Aur 9ct\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: G113a
Pris: £695.00
Categori: Tlysau
Cyfrwng: Aur 9ct
Maint: 10 x 40mm
Cadwyn: Cadwyn Safonol Aur 9ct 18''(45cm)

Tlws Llwy Serch Croeso Aur 9ct £695.00

Aur 9ct
£695.00
Ar gael: Mewn stoc
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Mae’r Llwy Serch hon yn cynnyws delweddau traddodiadol sydd i’w gweld ar lawer o Lwyau hanesyddol. Mae cartref, tebot ac olwyn yn cynrychioli aelwyd glud, a bywyd dedwydd a ffodus.

Dechreuodd yr arfer o roddi llwyau fel gweithred symbolaidd rhwng cariadon. Byddai dyn yn cerfio llwy fechan allan o un darn o bren ac yn ei chyflwyno i’w gariad. Os derbyniai hithau’r llwy, buasai’n ei chadw fel arwydd o ffyddlondeb ac ymrwymiad i’r rhoddwr. Roedd y llwyau cyntaf yn fach, gyda’r bwriad o’u cadw’n gyfrinach a’u cario mewn poced neu eu gwisgo ar linyn o gwmpas y gwddf, ond wrth i’r arfer ddod yn fwy cyffredin a chyhoeddus, cerfiwyd llwyau mwy o faint a mwy cywrain er mwyn profi medr ac ymroddiad y rhoddwr. Defnyddid addurniadau symbolaidd arnynt: angor am ffyddlondeb, tebot neu dy i gynrychioli cyfoeth a chartref dedwydd, ac wrth gwrs calon am gariad parhaol.