Tlws Llwy Serch Draig Arian £145.00
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Mae’r Llwy Serch hon yn cario arwyddion o Gymru: mae’r Groes Geltaidd yn cynrychioli hanes ffydd yng Nghymru, ac mae’r Ddraig a’r Genhinen Pedr yn arwyddion cyfarwydd o Gymreictod. (Wrth gwrs, mi fedrai’r ddraig gynrychioli perthynas nwydus hefyd).
Dechreuodd yr arfer o roddi llwyau fel gweithred symbolaidd rhwng cariadon. Byddai dyn yn cerfio llwy fechan allan o un darn o bren ac yn ei chyflwyno i’w gariad. Os derbyniai hithau’r llwy, buasai’n ei chadw fel arwydd o ffyddlondeb ac ymrwymiad i’r rhoddwr. Roedd y llwyau cyntaf yn fach, gyda’r bwriad o’u cadw’n gyfrinach a’u cario mewn poced neu eu gwisgo ar linyn o gwmpas y gwddf, ond wrth i’r arfer ddod yn fwy cyffredin a chyhoeddus, cerfiwyd llwyau mwy o faint a mwy cywrain er mwyn profi medr ac ymroddiad y rhoddwr. Defnyddid addurniadau symbolaidd arnynt: angor am ffyddlondeb, tebot neu dy i gynrychioli cyfoeth a chartref dedwydd, ac wrth gwrs calon am gariad parhaol.