Clustdlysau Llwy Serch Calon Arian £165.00
Manylion
Gwnaed y llwy serch fach hon o ddwy galon uwchben ei gilydd. Mae’n anrheg bedydd poblogaidd, ac hefyd yn gwneud clustdlysau pert.
Dechreuodd yr arfer o roddi llwyau fel gweithred symbolaidd rhwng cariadon. Byddai dyn yn cerfio llwy fechan allan o un darn o bren ac yn ei chyflwyno i’w gariad. Os derbyniai hithau’r llwy, buasai’n ei chadw fel arwydd o ffyddlondeb ac ymrwymiad i’r rhoddwr. Roedd y llwyau cyntaf yn fach, gyda’r bwriad o’u cadw’n gyfrinach a’u cario mewn poced neu eu gwisgo ar linyn o gwmpas y gwddf, ond wrth i’r arfer ddod yn fwy cyffredin a chyhoeddus, cerfiwyd llwyau mwy o faint a mwy cywrain er mwyn profi medr ac ymroddiad y rhoddwr. Defnyddid addurniadau symbolaidd arnynt: angor am ffyddlondeb, tebot neu dy i gynrychioli cyfoeth a chartref dedwydd, ac wrth gwrs calon am gariad parhaol.