Adar

Mae cyswllt agos iawn rhwng Rhiannon ac adar yn y chwedlau, ac mae ganddi dri aderyn hud i'w hebrwng sy'n gallu tywys unrhyw feidrolion a glywsant eu cân i'r Arallfyd Celtaidd, Annwn. Yn y chwedlau Celtaidd, mae pobl, adar ac anifeiliaid yn aml yn cyfnewid eu ffurfiau allanol, ac hyd heddiw credir bod rhai adar yn medru ymgorffori bodau ysbrydol neu gario negeseuon o'r Arallfyd.