Ceirw

Yn fytholegol mae’r carw gwyn yn gysylltiedig a symud i fyd arall neu i gyflwr arallfydol. I’r Cristnogion cynnar, daeth yn symbol o Grist ac weithiau portreadir sant gyda’r carw gwyn neu yn marchogaeth arno. Un o’r enwau Cymraeg ar y carw yw Bwchydanas, ac mae’r enw hwn yn tarddu o’r cyfnod cyn-Gristnogol. Y Danas yw’r Tylwyth Teg neu’r Tuatha de Danaan, pobl yr arall-fyd yn yr Iwerddon.