Garanod

Rhoddir lle blaenllaw i’r Garan neu'r Crëyr yn y gelfyddyd Geltaidd, ac mae iddo le pwysig yn ein chwedlau a'n coelion gwerin hefyd. Ym mytholeg yr holl wledydd Celtaidd mae’r aderyn hwn yn gysylltiedig â chreadigaeth, sancteiddrwydd a tharddiad bywyd. Ystyrir ef yn aderyn enigmatig sy’n medru newid i ffurf dynol, diflannu neu ymddangos yn ddirybudd, ac mae’n geidwad ar holl gyfrinachau bywyd. Mae rhai straeon yn dweud ei fod yn cadw’r cyfrinachau hyn mewn sach hud ac yn sefyll ar un goes mewn afonydd am ei fod wedi colli’r sach yn y dŵr.