Crehyrod

Mae traddodiad y Crëyr yn un o’r ychydig hen gredoau Celtaidd sydd wedi goroesi trwy’r canrifoedd hyd heddiw. Cariwyd ei bwysigrwydd cynnar ymlaen i’r traddodiad Cristnogol, lle’r oedd delweddau ohono’n britho llawysgrifau sanctaidd yr Eglwys Geltaidd, ac ystyrir ef hyd heddiw yn aderyn sanctaidd St Columba yn Iwerddon a’r Alban. Hyd yn oed yn ein byd cyfoes ni pery’r chwedl fod y crëyr yn dod a babanod i’r byd, ac yn y Gymraeg mae’r enw’n dweud popeth – “Crëyr”/ creawdwr.