Broets Ar Lan y Môr Arian £135.00
gan
Rhiannon
Manylion
Mae’r darn hwn yn un o gyfres sydd wedi ei ysbrydoli gan alawon a dawnsiau traddodiadol Cymreig – patrymau manwl wedi eu gwau gan ddwsin neu ragor o ddawnswyr, mewn llwybrau cymhleth, di-ddiwedd. Enwyd y cynllun hwn ar ôl y gan serch draddodiadol ‘Ar Lan y Môr’:
Ar lan y môr mae rhosys cochion
Ar lan y môr mae lilis gwynion
Ar lan y môr mae ’nghariad inne
Yn cysgu’r nôs a chodi’r bore.
Ar lan y môr mae carreg wastad
Lle bum i’n siarad gair â’m cariad
O gwmpas hon mae teim yn tyfu
Ac ambell sbrigyn o rosmari.