Llun o Rhiannon

Rhiannon

Rhywdro yn y 70au cynnar, digwyddais daro i mewn i arddangosfa yn Llundian lle’r oedd rhai o’r creiriau Celtaidd o Brydain ac Ewrop wedi eu casglu at ei gilydd. Bryd hynny, nid oedd celfyddyd y Celtiaid yn adnabyddus nac yn boblogaidd fel y mae heddiw, a phrin oedd y gwerthfawrogiad ohono. Ni allwn ond synnu a rhyfeddu at ragoriaeth y crefftwaith a’r dylunio yn y gweithiau hynafol hyn, rhai ohonynt wedi eu gwneud dros 3000 o flynyddoedd yn ôl.

Roedd hon yn gelfyddyd fawr, fel celfyddyd y Groegiaid a’r Efftiaid gynt. Ond tra bod symbolaeth y traddodiadau hynny yn dipyn o ddirgelwch i mi, teimlwn ryw adnabyddiaeth a dealltwriaeth reddfol o’r delweddau hyn. Gwelwn yn eu mysg lawer a oedd yn perthyn i’r traddodiad barddol a chwedlonol Cymreig, creaduriaid arallfydol fel y Twrch Trwyth a Chwn Annwn, ac wynebau cyfarwydd Blodeuwedd a Lleu Llaw Gyffes. Nid celfyddyd rhyw wlad bell neu wareiddiad angof oedd yma ond ein traddodiad gweledol ni! O’r foment honno teimlais rhyw reidrwydd i barhau gwaith y cenedlaethau hyn o grefftwyr ymroddgar, i greu gwaith newydd o fewn ein traddodiad hynafol, yn tarddu o’r un ysbrydoliaeth a’u hysgogodd hwythau.

Dewisais arian ac aur fel cyfrwng a bwrw ati i ddysgu’r sgiliau angenrheidiol. O’r dechrau yr oedd pob darn o emwaith gorffendig wedi ei gyflwyno gyda thaflen fechan yn esbonio’r cynllun yn ogystal â bod yn ddarn deniadol i’r llygad, roedd y gemwaith yn gyfrwng i gyfleu ac i rannu’r hyn a wyddwn o’r traddodiad Celtaidd. Gydag amser, datblygodd fy nghrefft trwy brofiad ac ymarfer, a’m deallwriaeth trwy ddarllen yn eang a chysylltu darnau o wybodaeth o wahanol feysydd.

Yn ystod y 40 mlynedd diwethaf mae’r busnes wedi tyfu’n gyson ac erbyn heddiw mae pobl o bob cwr o’r byd yn prynu ac yn gwisgo fy nghynlluniau. Rwy’n parhau i gynllunio pob darn newydd fy hun, a gwneud y cynnyrch cyntaf. Fi hefyd sy’n gwneud y cyfresi cyfyngedig, Aur Cymru Rhiannon ac ambell ddarn comisiwn. Mae tyfiant yn anorfod, ond fel cwmni teuluol ni fyddwn yn cyfaddawdu ar ansawdd na safon ein gwaith, nac yn colli’r ymroddiad personol. Caiff ein gemwaith ei wneud i oroesi, a rhoddir dilysnod llawn yr Assay Office yn Llundain ar bob darn, i ddynodi ei darddiad a’i gynnwys ar gyfer cenedlaethau i ddod.