Llun o 'Tlws Clymwaith Preseli Arian''
Llun o\'Tlws Clymwaith Preseli Arian\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: S461a
Pris: £195.00
Categori: Tlysau
Cyfrwng: Arian Sterling 925
Maint: 17 x 33mm
Sy'n Cynnwys: Preseli
Cadwyn: Cadwyn Safonol Arian 18''(45cm)

Tlws Clymwaith Preseli Arian £195.00

Arian Sterling 925
£195.00
Ar gael: Stoc isel
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Mae’r garreg las a welir ar fynydd Preseli yn garreg hynod, - cymaint felly fel y trafferthod rhywrai yn yr amser cyn hanes i'w gymeryd o orllewin Cymru a'i gludo yr holl ffordd ar draws Prydain er mwyn adeiladu teml arbennig yn ne Lloegr, sef Cor y Cewri (Stonehenge). Gwenithfaen ydyw, yn cynnwys crisialau o farmor gwyn, a phan roddir sglein arno mae'n troi yn lliw gwyrddlas tywyll gyda smotiau gwynion sy'n edrych fel awyr y nos; hyn efallai oedd yn gyfrifol am ei arwyddocad arbennig i'n cyndeidiau derwyddol yn y cyfnod Celtaidd, neu efallai ei gysylltiadau a iechyd oedd yn gyfrifol.

Mae Rhiannon yn defnyddio cerrig gleison 'cabochon' wedi eu gosod mewn aur neu arian i wneud y gemwaith unigryw yma. Mae’r cynllun hwn yn adlewyrchu cyfnod diweddarach yn ein hanes, pan ddaeth disgynyddion y derwyddon yn arweinwyr Cristnogol, y meini hirion yn groesau aruchel cerfiedig a’r ffynhonnau hud yn ffynhonnau iachâd sanctaidd. Mae’r clymwaith Celtaidd yn nodweddiadol o’r gelfyddyd Geltaidd Gristnogol, yn cynrychioli bywyd tragwyddol a chymhlethdod y berthynas agos rhwng Duw, dyn a byd natur.