Necled Cwlwm y Drindod Arian £125.00
Manylion
Cynllun sy'n seiliedig ar glymwaith cain yn Llyfr Kells a llawysgrifau Cristnogol eraill o'r 8fed a'r 9fed ganrif. Mae amrywiaethau ar y cwlwm triphlyg yn amlwg iawn yng ngwaith addurno'r llyfrau hyn, fel symbol o'r Drindod - syniad hanfodol bwysig yng nghredo'r Celtiaid cyn Crist yn ogystal ag yn yr Eglwys Fore.
Mae’r cynllun hwn yn un o nifer yn ein casgliad Clymwaith Celtaidd. Mae’n debyg taw Clymwaith yw’r arddull mwyaf nodedig ac adnabyddus o gynllunwaith Celtaidd. Serch hynny, nid datblygiad cynnar mohono – fe’i fabwysiadwyd gan y Celtiaid o wledydd Dwyreiniol, ac yna’i ddatblygu ymhellach gan y mynachod Celtaidd Gristnogol o’r 7fed Ganrif ymlaen.
Roedd y patrymau o linellau di-dor yn plethu trwy ei gilydd yn taro tant a’r Celtiaid, yn gynrychioliad o’u syniadaeth am fywyd tragwyddol a pherthynas gymhleth dynoliaeth gyda’r byd dwyfol a naturiol fel ei gilydd.