Modrwy Sgwarnog £95.00
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Ar draws y byd mae’r ysgyfarnog yn gysylltiedig â’r lleuad, benyweidd-dra a ffrwythlondeb, sy’n awgrymu bod hwn yn gredo gwirioneddol hynafol. Yn y cyfnod Rhufeinig ym Mhrydain, ymgorfforiad o’r dduwies Frythonig Ostara neu Eostre oedd ymddangosiad sgwarnog ar leuad llawn, ac roedd ei gwyl flynyddol ar gyhydnos y gwanwyn (Mawrth 21). Mabwysiadwyd yr wyl hon yn ddiweddarach fel y Pasg Cristnogol, sef “Easter” yn Saesneg a daeth y sgwarnog yn “Easter Bunny”! (nid yw cwningod yn gynhenid i’r wlad hon) Mae llawer o gredoau hud a lledrith am y sgwarnog, yn cynnwys ei gallu i drawsffurfio, h.y. bod pobl (benywaidd fel arfer) yn gallu ymddangos ar ffurf sgwarnog.
Yng Nghymru mae’r sgwarnog yn anifail sanctaidd i’r Santes Melangell (gweler ein tlws Melangell), ac yn Lloegr mae stori debyg yn ei chysylltu a Sant Anselm.