Clustdlysau Santiana Arian £185.00
gan
Rhiannon
Manylion
Mae’r darn hwn yn un o gyfres sydd wedi ei ysbrydoli gan alawon a dawnsiau traddodiadol Cymreig – patrymau manwl wedi eu gwau gan ddwsin neu ragor o ddawnswyr, mewn llwybrau cymhleth, di-ddiwedd. Enwyd y cynllun hwn ‘Santiana’, sy’n son am hiraeth llongwr wrth rowndio’r horn:
O Santiana, chwyth dy gorn
Ai-o Santiana!
Gyrr wyntoedd teg i rowndio’r horn
Mae ngartre’ i yng Nghymru bell.
Mae tŷ fy Nhad yn wyn a hardd
A rhosus cochion yn yr ardd…