Necled Llyn y Fan Arian £265.00
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Darn yn seiliedig ar stori Llyn-y-Fan Fach. Tra’r oedd bachgen lleol yn bugeilio ar lan y llyn, gwelodd ferch brydferth yn codi allan o’r dŵr a syrthiodd mewn cariad â hi. Wedi tair ymgais llwyddodd i berswadio’r ferch i’w briodi, ac allan o’r llyn gyda hi daeth gyr o wartheg gwynion braf. Bu’r ddau fyw yn hapus a llewyrchus gan fagu plant am gyfnod, ond roedd amodau ynghlwm â’r briodas ac fe dorrwyd yr amodau.
Diflannodd y wraig a’r holl wartheg yn ôl i’r llyn, gan adael ei gŵr a’i meibion ar ôl. Ymddangosodd y wraig eto i’w meibion ar sawl achlysur, a dysgu iddynt rinweddau planhigion a dulliau meddyginiaeth llysieuol. Y meibion hynny oedd Meddygon Myddfai, teulu o feddygon medrus a fu’n iachau pobl yr ardal am ganrifoedd wedyn.
Yn ôl traddodiad, mae gwartheg gwynion Parc Dinefwr yn disgyn o linach gwartheg hud Llyn y Fan ac maent wedi bod yno ers cyn cof.