Llun o 'Necled Creyr Arian''
  • Llun o\'Necled Creyr Arian\'
  • Llun o\'Necled Creyr Arian\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: S028n
Pris: £325.00
Categori: Necledau
Cyfrwng: Arian Sterling 925
Maint: 50 x 31mm
Cadwyn: Cadwyn Safonol Arian 16''(40cm) (rhanedig)

Necled Creyr Arian £325.00

Arian Sterling 925
£325.00
Ar gael: Stoc isel
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Rhoddir lle blaenllaw i’r crëyr neu’r garan yn y gelfyddyd Geltaidd, ac mae iddo le pwysig yn y chwedlau a’r coelion cefn gwlad hefyd. Ym mytholeg yr holl wledydd Celtaidd mae’n gysylltiedig â chreadigaeth a tharddiad bywyd. Ystyrir ef yn aderyn enigmatig, sy’n medru newid i ffurf ddynol, diflannu, neu ymddangos yn ddirybudd, ac mae’n geidwad ar holl gyfrinachau bywyd. Mae rhai straeon yn dweud ei fod yn cadw’r cyfrinachau hyn mewn sach hud a’i fod yn sefyll ar un goes mewn afonydd am ei fod wedi colli’r sach yn y dwr.

Mae traddodiad y crëyr yn un o’r ychydig hen gredoau Celtaidd sydd wedi goroesi drwy’r canrifoedd. Parhaodd ei bwysigrwydd cynnar i’r traddodiad Cristnogol, lle’r oedd lluniau ohono yn britho Llyfr Kells a’r llawysgrifau eraill, ac ystyrir ef o hyd yn Iwerddon ac ar Ynys Iona yn aderyn sanctaidd St Columba. Yn ein hoes ni pery’r chwedl yn y traddodiad fod y crëyr (neu’r stork yn Saesneg) yn dod â babanod i’r byd - ac yn y Gymraeg mae ei enw yn dweud y cyfan - ‘Crëyr’, y Creawdwr.