Necled Dreigiau Clwm Arian £125.00
gan
Rhiannon
Manylion
Patrwm o gylymwaith Celtaidd yn ymgorffori sarff-ddreigiau, gyda ffurf ‘Tafod y Ddraig’ yn ymddangos yng nghanol y patrwm.
Mae’r cynllun hwn yn un o nifer yn ein casgliad Clymwaith Celtaidd. Mae’n debyg taw Clymwaith yw’r arddull mwyaf nodedig ac adnabyddus o gynllunwaith Celtaidd. Serch hynny, nid datblygiad cynnar mohono – fe’i fabwysiadwyd gan y Celtiaid o wledydd Dwyreiniol, ac yna’i ddatblygu ymhellach gan y mynachod Celtaidd Gristnogol o’r 7fed Ganrif ymlaen.
Roedd y patrymau o linellau di-dor yn plethu trwy ei gilydd yn taro tant á’r Celtiaid, yn gynrychioliad o’u syniadaeth am fywyd tragwyddol a pherthynas gymhleth dynoliaeth gyda’r byd dwyfol a naturiol fel ei gilydd.