Llun o 'Necled Ceirw Cwm Cych Arian''
Llun o\'Necled Ceirw Cwm Cych Arian\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: S005n
Pris: £265.00
Categori: Necledau
Cyfrwng: Arian Sterling 925
Maint: 34 x 27mm
Cadwyn: Cadwyn Safonol Arian 16''(40cm) (rhanedig)

Necled Ceirw Cwm Cych Arian £265.00

Arian Sterling 925
£265.00
Ar gael: Stoc isel
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Seiliwyd y cynllun hwn ar gerflun o garw ar garreg a ddarganfyddwyd yn yr Alban - yma wedi ei newid a'i ddyblu i ffurfio drychddelwedd. Mae cynlluniau tebyg yn nodweddiadol o gelfyddyd Geltaidd, gan eu bod yn adlewyrchu’r ddeuoliaeth Meidrol ac Arallfydol sydd mor aml yn rhan o’r chwedloniaeth.

Daw teitl y darn o Gainc Pwyll Pendefig Dyfed, rhan o’r Mabinogi. Tra’n hela carw yng Nghwm Cych, mae Pwyll yn dod ar draws cŵn heliwr arall ar yr anifail cyn iddo fedru ei hawlio dros ei hun. Mae’n gyrru’r cŵn ymaith, ond wedyn yn darganfod eu bod yn eiddo i Arawn, Brenin yr Arallfyd. Er mwyn ennill ei faddeuant, rhaid i Pwyll gyfnewid bywyd gydag Arawn a lladd ei elyn ar ei ran yn yr Arallfyd. Mae drych-ddelwedd y darn yn adlewyrchiad o’r cyfnewid hwn.

Seiliwyd dau gynllun arall, Cŵn Annwn a Pwyll-Arawn, ar yr un chwedl.