Necled Enw Unigryw Aur 9ct £695.00†
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Wedi'u torri yn unigol a'u gorffen â llaw, mae pob un o'n necledi enw mor unigryw â'r person a fydd yn ei gwisgo. Dros y blynyddoedd, rydym wedi gwneud cannoedd o enwau, hir a byr, a does na ddim dau sydd yr union un peth. Maen nhw'n cymryd 4-6 wythnos i'w gwneud, ond maen nhw'n sicr yn werth aros amdanynt. Gwyddwn am rai cwsmeriaid sydd wedi gwisgo eu rhai nhw am ddegawdau. Mae wyres Rhiannon wedi gwisgo ei hun hi bob cyfle posibl ers ei bod hi'n 7 oed!
Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y darnau comisiwn unigryw hyn ar gael am bris fforddadwy er yr holl waith caled a sylw sydd ei angen i greu pob un. Gan eu bod nhw wedi'u gwneud â llaw does dim cyfyngiadau - llysenwau, codau, geiriau, mae unrhyw gyfuniad o lythrennau yn bosibl. (Gallwn hyd yn oed ymgorffori rhai symbolau, e.e. calon, ond gan nad oes modd eu teipio i'r blwch enw ar y dudalen hon, cysylltwch â ni am bris os gwelwch yn dda.)