Necled Dreigiau Mellt Preseli Arian £265.00
Manylion
Darn trawiadol i unrhyw achlysur. Mae'r ddraig, neu'r sarff, yn symbol pwysig yng nghelfyddyd y Celtiaid, ac mae'n aml yn gysylltiedig a ffynhonnau neu ddŵr sanctaidd. Yn y cynllun yma gwelir dwy ddraig yn cofleidio darn o garreg las Preseli.
Mae’r garreg las a welir ar fynydd Preseli yn garreg hynod, - cymaint felly fel y trafferthod rhywrai yn yr amser cyn hanes i'w gymeryd o orllewin Cymru a'i gludo yr holl ffordd ar draws Prydain er mwyn adeiladu teml arbennig yn ne Lloegr, sef Cor y Cewri (Stonehenge). Gwenithfaen ydyw, yn cynnwys crisialau o farmor gwyn, a phan roddir sglein arno mae'n troi yn lliw gwyrddlas tywyll gyda smotiau gwynion sy'n edrych fel awyr y nos; hyn efallai oedd yn gyfrifol am ei arwyddocad arbennig i'n cyndeidiau derwyddol yn y cyfnod Celtaidd, neu efallai ei gysylltiadau â iechyd oedd yn gyfrifol.
Mae Rhiannon yn defnyddio cerrig gleison 'cabochon' wedi eu gosod mewn aur neu arian i wneud y gemwaith unigryw yma. Mae’r Ddraig symbolaidd yn cynrychioli nerthoedd y ddaear, fel yr ymddangosant mewn ffynhonnau, dyfroedd tanddaearol a meini hirion. Deallai’r derwyddon y pwerau hyn a ddefnyddient hwy at bwrpasau darogan, iachau a seremoniau crefyddol.