Oes y Saint
Daeth y cysyniad o Gymreictod, fel y'i hadnabyddwn erbyn hyn, i fodolaeth ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid o'r glannau hyn yn y flwyddyn 383OC. Mae'r cyfnod dilynol yn aml yn cael ei ddisgrifio fel un o'n hoesoedd aur diwylliannol, gyda'r Eglwys Geltaidd yn cynhyrchu dros 800 o seintiau Cymreig.
O'n Nawddsant, Dewi, i Sant Padrig Iwerddon (oedd – roedd e'n Gymro hefyd!) drwodd i ddyluniadau a geir ar draws y gwledydd Celtaidd, mae ein casgliad Oes y Saint yn cynnig nid yn unig ddarnau coeth o emwaith, ond hefyd mewnwelediad i straeon hanesyddol, ac weithiau chwedlonol, sy'n eu gosod mewn cyd-destun.