Llun o 'Tlws Ŵyn Bach Melangell Arian''
  • Llun o\'Tlws Ŵyn Bach Melangell Arian\'
  • Llun o\'Tlws Ŵyn Bach Melangell Arian\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: S079a
Pris: £175.00
Categori: Tlysau
Cyfrwng: Arian Sterling 925
Maint: 36 x 36mm
Cadwyn: Cadwyn Safonol Arian 18''(45cm)

Tlws Ŵyn Bach Melangell Arian £175.00

Arian Sterling 925
£175.00
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Manylion

Un diwrnod yn y flwyddyn 590 roedd Brochwel, Brenin Powys yn hela sgwarnogod. Gyrrwyd un i mewn i ddryslwyn o ddrain gan ei gŵn, ond gwrthodent fynd ymhellach. Er mawr syndod i Brochwel canfu fod y sgwarnog wedi cael lloches o dan fantell merch ifanc brydferth a oedd yn gweddïo ynghanol y dryslwyn. Dywedodd hithau wrtho mai ei henw oedd Melangell a’i bod yn ferch i frenin o’r Iwerddon. Yr oedd wedi dianc i Gymru a chysegru ei bywyd i Dduw, gan fyw fel meudwy yn ddirgel ar ei dir ers 15 mlynedd.

Wrth weld y fath ryfeddod, cyflwynodd Brochwel ddarn o dir yn eiddo i Melangell, i’w gadw fel lloches ac amddiffynfa ddilychwin am byth. Bu Melangell fyw yno am 37 mlynedd eto, gan sefydlu cymuned fechan o ferched yn addoli Duw. Trwy gydol yr amser parhaodd sgwarnogod i ymweld â’r fangre yn ddyddiol a daethant i gael eu derbyn fel creaduriaid sanctaidd gyda bendith arbennig Melangell i’w hamddiffyn. Ni chaent eu hela yno, ac un o’r enwau lleol am sgwarnogod yw Ŵyn Bach Melangell.

O'r un teulu

$(function() { cookieNotice("Mae'r wefan hon yn defnyddio briwsion.", "Er mwyn cynnig y profiad gorau i chi wrth bori'r wefan hon, rydyn ni'n arbed briwsion ar eich peiriant. Am fwy o wybodaeth gweler ein", "polisi briwsion yma", "/polisi-briwsion", "Polisi Briwsion", "Derbyn", "Gosodiadau", "Mae rhai o'r briwsion yma yn angenrheidiol, tra bo eraill yn ein cynorthwyo i wella eich profiad drwy daflu goleuni ar sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio. Cliciwch Derbyn i dderbyn y gosodiadau a'u hargymhellir. Mae mwy o wybodaeth yn ein", "Briwsion Angenrheidiol", "Mae briwsion angenrheidiol yn galluogi gweithrediad craidd y wefan. Ni all y wefan weithio'n iawn heb y rhain. Gallwch ddiffodd y rhain drwy newid dewisiadau eich porwr ond bydd hyn yn amharu ar allu'r wefan i ddarparu profiad cyson wrth bori, e.e. o ran cofio eich bod wedi mewngofnodi ac ati.", "Briwsion Dadansoddi", "Mae briwsion dadansoddi defnydd yn ein cynorthwyo i wella ein gwefan drwy gasglu gwybodaeth am natur y defnydd sy'n cael ei wneud o'r wefan. Dim ond gwybodaeth gyfansymiol neu ystadegol sy'n cael ei chasglu drwy hyn, ac nid oes unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu.", "Briwsion Cymdeithasol", "Mae briwsion cymdeithasol yn ein caniatáu i ddangos ein botymau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r ffrydiau yn cynnig y gallu i ymateb, hoffi a rhannu negeseuon yn uniongyrchol o'n gwefan, ac er mwyn gwneud hyn, maent yn deffnyddio briwsion Trydydd Parti.", startAnalytics, stopAnalytics, startSocial, stopSocial, "false"); }); //-->