Tlws Croes Llydaw Arian £125.00
gan
Rhiannon
Manylion
Croes Geltaidd ysgafn ag iddo gylch bach a breichiau addurniedig. Darganfuwyd y math yma o groes yn aml yn Llydaw a Chernyw.
Mae croesau carreg yn rhan bwysig o’n hetifeddiaeth Geltaidd. Gwelir nhw mewn hen fynwentydd, ar hen lwybrau, ar groesffyrdd ac ar fynydd-dir agored ar hyd a lled y gwledydd Celtaidd. Mae’r rhai cynharaf yno ers y 6ed Ganrif (Oes y Saint) - llawer ohonynt yn ddim mwy na maen hir gyda chroes amrwd wedi ei naddu i fewn i’w wyneb. Mae’r croesau aruchel diweddarach yn dyddio o’r 8fed i’r 11eg Ganrif ac wedi eu cerfio â phatrymau cywrain.