Llun o 'Tlws Croes Dewi Arian''
Llun o\'Tlws Croes Dewi Arian\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: S301a
Pris: £145.00
Categori: Tlysau
Cyfrwng: Arian Sterling 925
Maint: 21 x 33mm
Cadwyn: Cadwyn Safonol Arian 18''(45cm)

Tlws Croes Dewi Arian £145.00

Arian Sterling 925
£145.00
Ar gael: Mewn stoc
Ychwanegu nodyn i'ch archeb

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Mae’r cynllun yn seiliedig ar groes garreg yn eglwys Llanddewi-brefi. Mae’n un o nifer a ddarganfuwyd yno, yn dyddio o’r 7fed ganrif OC. Gwnaethpwyd y groes yma gan grefftwyr Cymraeg o fewn 3 milltir i’r fangre gysegredig hon, lle dywedir i’r tir godi o dan draed Dewi Sant tra’r oedd yn pregethu i dyrfa fawr.

Mae croesau carreg yn rhan bwysig o’n hetifeddiaeth Geltaidd. Gwelir nhw mewn hen fynwentydd, ar hen lwybrau, ar groesffyrdd ac ar fynydd-dir agored ar hyd a lled y gwledydd Celtaidd. Mae’r rhai cynharaf yno ers y 6ed Ganrif (Oes y Saint) - llawer ohonynt yn ddim mwy na maen hir gyda chroes amrwd wedi ei naddu i fewn i’w wyneb. Mae’r croesau aruchel diweddarach yn dyddio o’r 8fed i’r 11eg Ganrif ac wedi eu cerfio â phatrymau cywrain.