Tlws Croes Berian Arian £145.00
✓ Cludiant am ddim
✓ Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
✓ Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
✓ Gwarant gwneuthuriad am oes
✓ Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
(gw. amodau a thelerau)
Manylion
Mae'r cynllun yn seiliedig ar groes o'r 7fed ganrif a naddwyd ar garreg ym Mryn Berian, ger Nanhyfer ym Mhenfro.
Mae croesau carreg yn rhan bwysig o’n hetifeddiaeth Geltaidd. Gwelir nhw mewn hen fynwentydd, ar hen lwybrau, ar groesffyrdd ac ar fynydd-dir agored ar hyd a lled y gwledydd Celtaidd. Mae’r rhai cynharaf yno ers y 6ed Ganrif (Oes y Saint) - llawer ohonynt yn ddim mwy na maen hir gyda chroes amrwd wedi ei naddu i fewn i’w wyneb. Mae’r croesau aruchel diweddarach yn dyddio o’r 8fed i’r 11eg Ganrif ac wedi eu cerfio â phatrymau cywrain.