Detholiad Gŵyl Dewi

Y 1af o Fawrth yw Dydd Gŵyl Dewi Sant, nawddsant Cymru. Ganwyd Dewi Sant i'r Santes Non, ar ben clogwyn yn Sir Benfro ynghanol storm wyllt, yn y flwyddyn 500. Bywyd mynachol syml oedd bywyd Dewi Sant, ac yn ôl yr hanes, roedd yn bodoli ar ddim llawer mwy na dŵr a chennin! Sefydlodd fynachlogydd yng Nghymru, Lloegr a Ffrainc cyn dychwelyd i'w famwlad, lle'i claddwyd ar safle Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi yn y flwyddyn 589. Mae neges Dewi Sant wedi goroesi, ac me ei eiriau "Gwnewch y pethau bychain" wedi parhau yn ddihareb gyfarwydd yn Nghymru hyd heddiw.