Croesau Cymru ar gyfer y Pasg

Gan fod y Pasg yn ŵyl bwysig yn y ffydd Gristnogol, rydym yn canolbwyntio yr wythnos hon ar ein cyfres Croesau Cymru, sef tlysau arian wedi eu seilio ar y croesau cerfiedig cynharaf oll yng Nghymru. Maent yn dyddio yn ôl i’r 6ed ganrif neu gynt, o adeg pan oedd “llannau” bychain Cristnogol yn gyffredin yng ngorllewin Prydain (Cymru, yr Alban a Chernyw), tra bod rhannau helaeth o Loegr yng ngafael y Sacsoniaid a heb gydnabod Cristnogaeth.

Dechreuodd y canolfannau eglwysig hyn fel grŵp bychan o gelloedd mynachaidd y tu mewn i fur ar ffurf cylch, weithiau ar lecyn oedd eisoes yn ganolfan sanctaidd cyn-Gristnogol. Mae llawer iawn ohonynt yn sefyll hyd heddiw fel canolfannau addoliad sy nawr yn eiddo i’r Eglwys yng Nghymru, gyda mynwent hynafol ac eglwys garreg oddi mewn. Eglwysi Plwyf ydynt heddiw, yn sefyll yng nghanol pentref neu dref a dyfodd o'u cwmpas ac a enwyd ar ôl y “sant” a’i sefydlodd ganrifoedd yn ôl, e.e. Llanddewi, Llanbadarn, Llandeilo.

O fewn y cylch gwreiddiol, safai meini sanctaidd a ddefnyddid fel canolbwynt gweddi ac addoliad (mae’n bosib bod rhai o’r rhain eisoes yn gerrig sanctaidd a ddefnyddiwyd mewn defodau cyn-Gristnogol), ac roedd angen eu nodi fel rhai Cristnogol. I’r perwyl hynny, naddwyd ffurf croes yn ddwfn i’r garreg mewn dull eithaf cyntefig. Maent wedi eu cadw a’u parchu fel cerrig sanctaidd byth ers hynny, ac erbyn heddiw mae llawer wedi cael eu symud i mewn i adeilad yr eglwys i’w gwarchod, neu wedi eu cymryd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru i’w cadw’n ddiogel.

Mae ffurf y croesau cynnar yma’n ddiddorol ac yn amrywio o un eglwys i’r llall, ond mae’r croesau sydd mewn un lleoliad yn tueddu i fod i gyd mewn arddull tebyg. Mae rhai yn groesau Celtaidd traddodiadol gyda chylch, rhai yn llinellau syth, ac eraill yn ffurf ar y llythrennau “Chi Rho”, y symbol Groegaidd am Grist.

,