Llun o 'Pin Arian - Daw Eto Haul ar Fryn''
  • Llun o\'Pin Arian - Daw Eto Haul ar Fryn\'
  • Llun o\'Pin Arian - Daw Eto Haul ar Fryn\'
  • Llun o\'Pin Arian - Daw Eto Haul ar Fryn\'

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod: S154p
Pris: £125.00
Categori: Pinnau
Cyfrwng: Arian Sterling 925
Gorffeniad Mat: Wyneb Mat
Pin: Cydiwr Gafael

Pin Arian - Daw Eto Haul ar Fryn £125.00

Arian Sterling 925
£125.00
Ar gael: Mewn stoc
Ychwanegu nodyn i'ch archeb
Hefyd ar gael mewn:

Cludiant am ddim
Lapio fel anrheg am ddim (dewisol)
Gwarant ad-daliad 90 diwrnod
Gwarant gwneuthuriad am oes
Gwarant cyfnewid am oes
✓ 50% oddi ar lanhau, gwerthuso, addasiadau a thrwsio
    (gw. amodau a thelerau)

Manylion

Cysylltodd meddyg, sydd wedi bod yn gwsmer a ffrind ers amser maith, gyda ni yn ôl ym mis Mai 2021 yn gofyn a oedd gennym gynllun gydag enfys arno. Roedd Gwylim wedi bod yn gweld cleifion Covid ddeuddydd yr wythnos, ochr yn ochr â’i ddyletswyddau meddyg teulu rheolaidd, ond gyda’r her ychwanegol bod ei fab hynaf yn cael ei ‘gysgodi’ gartref.

Rydym oll yn gyfarwydd â’r dywediad ‘daw eto haul ar fryn’, sy’n cael ei ddefnyddio i fynegi gobaith ac fel anogaeth i gadw’r ffydd. Ysbrydolwyd mab Rhiannon, Gwern, gan hanes Gwilym, i gynllunio a chreu pin arian arbennig, gyda’i fam, i ymgorffori’r dywediad hwn gydag enfys y GIG mewn mynegiant o obaith.

Mae'r darn ei hun wedi'i orffen â llaw gyda thri gorffeniad gwahanol – un i bob elfen o’r dyluniad. Mae'r enfys yn arw ac mae'r haul wedi'i sgleinio â llaw i ddisgleiriad uchel, cyn i'r bryn gael gorffeniad brws trwy ddefnyddio pwynt rwber ar ddril llaw. Mae ganddo ddilysnod llawn ac mae wedi ei wneud i’n safon uchel arferol. Tra nad yw’r darn yn hollol gynrychioliadol o arddull Rhiannon, mae’n adleisio’r ysbryd Celtaidd, a’n traddodiad celfyddydol Cymreig drwy anrhydeddu arwyddocâd trioedd yn ei symboleg – tair elfen, tair elusen, tri gorffeniad, tri ystyr:

Mynegi gobaith am ddyfodol gwell, ein hatgoffa am y golled a’r amserau anodd ac, er na honnwn ei effeithiolrwydd, mae’n dilyn y traddodiad hir o ddefnyddio arian i wneud darnau talismanaidd.